Adroddiad Blynyddol Awdurdod yr Heddlu a’r Prif Gwnstabl
Mae’n dda gennym adrodd bod troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng yn sylweddol yng Ngwent yn ystod 2010-11. Y llynedd cafwyd gostyngiad o 10% mewn troseddau, a oedd yn golygu 4,559 yn llai o ddioddefwyr a gostyngiad o 15% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cyfateb i 9,213 yn llai o ddigwyddiadau.
Mae’r ffigyrau hyn yn golygu bod yr Heddlu’n 4ydd gorau allan o’r 43 o Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr o ran gostwng troseddau yn ystod y cyfnod hwn. Cyflawnwyd hyn â 200 yn llai o staff, ac ar adeg pan fu’n rhaid i ni wneud arbedion o £11.4 miliwn i fynd i’r afael â chyllideb ostyngol.
Gwyddom y bydd ein cyllideb yn cael ei thorri, a’i bod yn ofynnol i ni arbed £24.1 miliwn yn fwy dros y pedair blynedd nesaf. Bydd hyn yn gosod heriau i ni ond bydd hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i aildrefnu’r ffordd yr ydym yn cyflenwi ein gwasanaeth ar gyfer y cyhoedd yng Ngwent. Mae Awdurdod yr Heddlu wedi bod yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl a’i huwch arweinwyr i gynllunio ar gyfer y diffyg hwn trwy greu rhaglen gadarn o newid a elwir yn ‘Aros ar y Blaen’. Bydd hon yn aildrefnu’r sefydliad ymhellach i gyrraedd y targedau a osodir dros y pedair blynedd nesaf a chyflawni gostyngiad o 20% yn y gyllideb.
Er gwaethaf y pwysau ar y gyllideb, mae Heddlu Gwent ac Awdurdod Heddlu Gwent yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth plismona lleol, hygyrch ac ymatebol sy’n eich amddiffyn chi rhag niwed difrifol ac yn mynd i’r afael â’r materion o ran troseddau ac anhrefn sydd fwyaf o bwys. Trwy newid y ffordd yr ydym yn gweithio, mae’r Heddlu bellach wedi’i saernïo’n well i amddiffyn a thawelu meddwl pobl Gwent ac mae’n fwy hyblyg wrth ddod o hyd i ffyrdd o ostwng troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhellach.
Ym mis Hydref 2010, Gwent oedd y lleoliad ar gyfer Cwpan Ryder sef y trydydd digwyddiad mwyaf ym myd chwaraeon yn rhyngwladol. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi portreadu Cymru a Gwent yn ffafriol i gynulleidfa fyd-eang. Roedd plismona’r digwyddiad hwn yn un o’r heriau mwyaf y mae’r Heddlu hwn wedi’u hwynebu erioed ac rydym yn falch eithriadol o lwyddiant yr ymgyrch.
Ar nodyn tristach, ym mis Mawrth 2011 gwelwyd un o’r daeargrynfeydd cryfaf i daro Japan ers i’r cofnodion gychwyn. Roedd Heddlu Gwent ar flaen y gad o ran yr ymateb plismona yn y DU, gan roi cymorth i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i adnabod, adfer ac ailwladoli Gwladolion y DU a chael cryn glod am y gwaith hwnnw.
Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn dangos y swm aruthrol o waith y mae Awdurdod yr Heddlu a’r Heddlu’n ei wneud i wella’r gwasanaeth a ddarperir ar gyfer trigolion Gwent. Byddwn yn parhau i weithio’n galed i sicrhau gwasanaeth effeithlon a chost-effeithiol sy’n amddiffyn ac yn tawelu meddwl ein cymunedau.

